Arian ei angen ar gyfer Prentis Ceidwad atgyweirio llwybrau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri

Mynediad Newyddion
23 Ebr
2 min read

A wnewch chi helpu Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC i godi arian hanfodol ar gyfer rôl hyfforddi Prentis Ceidwad dwy flynedd newydd sy'n canolbwyntio ar atgyweirio llwybrau troed ym Mharc Cenedlaethol Eryri?

Mae Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC yn anelu i godi £67,000 i greu rôl Prentis Ceidwad 2-flynedd newydd o fewn Tîm Llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri, fel rhan o'n hymgyrch ehangach Mend our Mountains.

Mae hyn y tro cyntaf i Dîm Llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri i gynnig prentisiaeth gyda nhw, ac yn gyfle gwych iddynt drosglwyddo sgiliau hanfodol mewn atgyweirio llwybrau troed, adeiladu a chynnal a chadw, tirlunio, plannu coed a rheoli meithrinfa, gwaith ffiniau, codi waliau sychion, ffensio, ymgysylltu â’r gymuned a thwristiaeth gynaliadwy. Bydd y Prentis Ceidwad hefyd yn arwain gwirfoddolwyr y BMC ar ddigwyddiadau atgyweirio llwybrau troed ‘Get Stuck In’ trwy gydol y flwyddyn.

Yn well byth, bydd beth bynnag y byddwch yn ei roi yn ystod 22-29 Ebrill 2025 yn cael ei DDYBLU fel rhan o ymgyrch y ‘Big Give Green Match Funding’. Os ydych wrth eich bodd yn cerdded, dringo a mynydda yn Eryri ac eisiau gwarchod y dirwedd hardd hon yn ystod eich oes ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yna rhoddwch yn hael os gwelwch yn dda.

NEWYDD Prentis Ceidwad Eryri

Cyfrannwch trwy Big Give 22-29 Ebrill 2025 i ddyblu eich cyfraniad!

Pam rhoddi?

Gyda 10.5 miliwn o ymwelwyr yn treulio nosweithiau ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn 2023/24, a dros 600,000 o bobl yn dringo’r Wyddfa bob blwyddyn, mae’r 1,497 milltir o lwybrau troed o fewn y parc 823 milltir sgwâr hwn yn gweld mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen. Caiff hyn ei waethygu gan gynnydd mewn tywydd eithafol oherwydd yr argyfwng hinsawdd ac sydd yn arwain yn gyflym at y problemau canlynol i gerddwyr bryniau, dringwyr, mynyddwyr a phobl sy’n hoff o’r awyr agored:

• Erydiad ar lwybrau troed

• Llwybrau lleidiog a llithrig

• Gylïau dwfn sy'n gallu troi ffêr

• Anawsterau mordwyo

• Llystyfiant wedi'i sathru

• Colli cynefin ar gyfer bywyd gwyllt

• Lleihad mewn bioamrywiaeth

• Golchi pridd i ddyfrffyrdd

• Mwy o berygl llifogydd

• Anghydbwysedd maetholion is i lawr yr afon

Felly, oni fyddai'n wych pe gallech wneud rhywbeth gwirioneddol ystyrlon i frwydro yn erbyn y difrod i lwybrau troed yn Eryri? Dyma'ch cyfle i gefnogi prosiect gwerth chweil i fynd i'r afael ag erydiad llwybrau ac addysgu mwy o bobl i amddiffyn a chadw'r tirwedd trawiadol, unigryw hwn. Cyfrannwch yma yn ystod 22-29 Ebrill i DDYBLU eich cyfraniad.

Mwy am y rôl

Bydd hyfforddi person angerddol arall ar Dîm Llwybrau Troed Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri yn galluogi niferoedd cynyddol o ymwelwyr i gael mynediad i’r ardal hardd hon yn ddiogel, heb niweidio’r dirwedd a bywyd gwyllt unigryw, fel Chwilen Enfys yr Wyddfa, Bele’r Coed, Ystlum Pedol Lleiaf, Heboglys Eryri, Lili’r Wyddfa a llu o gennau a mwsoglau prin.

Dywedodd Ifan Parry, Ceidwad Ardal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri gyda’r Tîm Llwybrau, “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri ac i weithio gyda thimau ceidwaid eraill yn Eryri. Mae’n cynnig platfform ardderchog i ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddod yn geidwad medrus iawn.

“Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus siarad Cymraeg er mwyn iddynt allu cyfathrebu gyda thirfeddianwyr a ffermwyr lleol, yn ogystal â cheidwaid eraill o fewn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri. Mae’r rôl yn siwtio person ifanc, a fydd yn cwblhau NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol ac unrhyw gyrsiau perthnasol eraill yng Ngholeg Glynllifon. Yn ogystal, byddant yn dod yn Arweinydd Mynydd Haf cymwysedig trwy Hyfforddiant Mynydd ym Mhlas y Brenin.

“Ein bwriad yw iddynt barhau gyda Thîm Llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri neu mewn gwaith gwarchod llwybrau troed ac ucheldir o fewn Cymru. Bydd y rhoddion hyn yn mynd yn bell i gefnogi’r gwaith adfer a chadwraeth llwybrau troed rydym yn ei wneud yma yn Eryri, gan warchod y dirwedd y mae mwy a mwy o bobl yn dymuno ei fwynhau.”

BMC Hill Walking Rep volunteer Steve Charles (top left) organises the Get Stuck In events

Mwy o geidwaid = mwy o ddigwyddiadau gwirfoddol

Meddai Steve Charles, cynrychiolydd Cerdded Bryniau'r BMC a sylfaenydd digwyddiadau atgyweirio llwybrau troed gwirfoddol y BMC ‘Get Stuck In’, "Rwyf wedi bod yn mynd i'r mynyddoedd ar hyd fy oes ac mae'n wych gallu rhoi yn ôl a theimlo eich bod yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd gwerthfawr hwn. Mae angen i ni wneud ein llwybrau mynydd yn fwy gwydn i fwy o law a defnydd cynyddol. Mae angen i'n mynyddoedd gael eu meithrin, oherwydd os nad ydym yn gwneud unrhyw beth, bydd yr ucheldir mewn cyflwr llawer gwaeth pan fyddwn yn eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

"Yn ystod 2023 a 2024, fe wnaeth gwirfoddolwyr Get Stuck In y BMC gwblhau 500 awr o waith yn Eryri. Fe wnaethon nhw atgyweirio dros 520m o lwybrau troed, gosod 187 o gerrig sarn ar draws tir corsiog, ailbroffilio 80m o dwmpath mawn wedi'u erydu a chlirio gwerth pum bag hofrennydd o warchodwyr coed plastig. Mae yna bedwar digwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer 2025, gan ddechrau'r gwanwyn yma. Bydd hynny'n cael effaith enfawr yn yr amgylchedd mynyddig, a byddem yn croesawu ceidwad arall yn Eryri i helpu i redeg hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau Get Stuck In yn y dyfodol.”

Cronfa Prentis Ceidwad Eryri

Helpwch Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC i godi £67,000 ar gyfer rôl Prentis Ceidwad 2-flynedd newydd o fewn Tîm Llwybrau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Eryri, fel rhan o'n hymgyrch ehangach Mend our Mountains.

Cyfrannwch trwy Big Give yn ystod 22-29 Ebrill 2025 i ddyblu eich cyfraniad!

Digwyddiadau atgyweirio llwybrau troed Get Stuck In

Mae digwyddiadau Get Stuck In yn gyfleoedd 1-3 diwrnod i wirfoddolwyr BMC i roi ychydig o gariad yn ôl at y tirweddau rydym wrth ein bodd yn cerdded a dringo ynddynt. Mae ystod o weithgareddau y penderfynir arnynt yn nes at amser y digwyddiad gan geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fydd yn dysgu sgiliau newydd i chi, gan esbonio mwy am eu gweithgareddau atgyweirio a chadwraeth llwybrau troed a gweithio ochr yn ochr gyda chi.

Gwyliwch y fideo yma

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES