YDYCH CHI’N BWRIADU MYND I FYNY’R WYDDFA Y GAEAF HWN? PARATEWCH

Mae’r BMC yn annog unrhyw un sy’n anelu i ddringo mynydd uchaf Cymru yn y gaeaf i baratoi yn iawn.
Wrth i'r gaeaf neshau, mae gan fynyddoedd dan orchudd eira apêl hollol newydd, yn enwedig ein copa uchaf, Yr Wyddfa. Er mwyn dringo’r bryniau pan fo eira a rhew, mae angen offer, sgiliau, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth arbenigol sydd yn ychwanegol at y sgiliau a ddefnyddir wrth gerdded mynyddoedd yn yr haf, a gall camgymeriadau fod yn llawer mwy difrifol.
“Gall eira a rhew drawsnewid mynyddoedd yn gyfan gwbl, gan ychwanegu dimensiwn ychwanegol o ran golygfeydd,” meddai Elfyn Jones, Swyddog Mynediad a Chadwraeth BMC Cymru. “Gallant fod yn lefydd hyfryd i fod ynddynt, ond gallant hefyd gyflwyno peryglon nad ydynd yn bresenol yn yr haf.
“Mae llawer o bobl yn meddwl bod yr Wyddfa yn fynydd hawdd i’w ddringo oherwydd fod llwybrau llydan i’r copa a chaffi ar ei ben. Ond mae’r Wyddfa yn y gaeaf yn lle gwahanol iawn i’r Wyddfa ar ddiwrnod heulog o haf.”
Mae poblogrwydd cynyddol Yr Wyddfa yn golygu bod y mynydd 1,085m (3,560tr) o uchder yn derbyn mwy na'i gyfran deg o ymwelwyr, ac yn anffodus nid yw rhai ohonynt wedi'u paratoi i ddelio â'r amodau llym, sy'n aml yn beryglus.
“Mae’r tywydd yn llawer gwaeth, gyda gwyntoedd cryfion, tymheredd is-sero a stormydd eira yn gyffredin. Gall gwelededd fod yn wael iawn, gan wneud llywio yn heriol. Ac yn aml gall eira a rhew orchuddio'r llwybrau, nid yn unig yn cuddio'r ffordd ond hefyd yn ffurfio llethrau llithrig a allai fod yn beryglus, y mae angen bwyell iâ a chrampons arnoch i'w dilyn yn ddiogel. Mewn eira trwm gall fod perygl o eirlithriadau," eglura Elfyn.
“Mae’r timau Achub Mynydd yn cael eu cadw’n brysur yn gyson yn y gaeaf yn ymateb i alwadau a achosir gan bobl yn ceisio dringo’r Wyddfa heb wybod beth yn union yw maint yr her. Gellid osgoi'r galwadau hyn rhag digwydd yn hawdd pe bai pobl yn paratoi a chael gwybodaeth ychwanegol ymlaen llaw.
“Dydyn ni ddim yn dweud ‘peidiwch â mynd i fyny’r Wyddfa yn y gaeaf’. Os ydych chi'n meddwl bod y golygfeydd yn dda yn yr haf, fe ddylech chi eu gweld o dan haen o eira - gall fod yn hynod brydferth. Rydyn ni jest yn dweud ‘paratewch’.”
Dywedodd Rob Johnson, Cadeirydd TAM Llanberis: “Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn cytuno gyda’r BMC bod mynyddoedd y gaeaf yn cynnig profiad anhygoel. Rydym yn awyddus i unrhyw un sy'n ymgymryd â'r her a'r uchelgais o gael dringo'r Wyddfa yn y gaeaf i wneud hynny gydag ymwybyddiaeth ynghylch pa mor heriol y gall yr amodau hynny fod.
“Yr wythnos diwethaf fe gyrhaeddodd y gwyntoedd copa 100mya ac ar hyn o bryd mae eira a rhew ar bob un o’r llwybrau. Mae'n bwysig bod gan bobl yr offer priodol fel bwyell iâ, cramponau, dillad gwrth-ddŵr, dillad wedi'u hinswleiddio, map, cwmpawd ac yn bwysicaf oll, arbenigedd am sut i'w defnyddio.
“Rydym hefyd yn annog pobl i seilio eu cynlluniau ar ragolygon tywydd cyfoes a chyfateb eu hamcan â’r amodau a’u profiad. Peidiwch byth â bod ofn troi’n ôl a chofiwch ei bod hi’n aml yn fwy heriol disgyn mewn eira a rhew nag yw hi i esgyn.”
Mae'r BMC yn hyrwyddo arferion da yn y gaeaf trwy amrywiaeth o sianeli. Un o'r ffyrdd gorau o gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch yw i ddysgu gan hyfforddwyr proffesiynol trwy fynychu cwrs sgiliau gaeaf.