10 Camgymeriad mae cerddwyr y gaeaf yn eu gwneud a sut i'w hosgoi
Dyma’ch rhestr o rai o’r camgymeriadau cerdded gaeaf mwyaf cyffredin a sut i’w hosgoi.
Ydych chi ond erioed wedi cerdded mynyddoedd yn yr haf hyd yn hyn? Croeso i'r peth go iawn. Dyma’ch rhestr o rai o’r camgymeriadau cerdded gaeaf mwyaf cyffredin a sut i’w hosgoi.
Pan fydd yr eira'n disgyn, mae'n hwyl yn y gaeaf. Mae rhai o fynyddoedd Prydain yn edrych bradd yn Alpaidd, ac er bod yr heriau'n niferus, mae'r gwobrau hefyd yn cynyddu. Mae eira a rhew yn cynyddu'r tebygolrwydd o gamgymeriadau yn sylweddol a gall camgymeriadau a fyddai'n fân yn yr haf gael canlyniadau difrifol. Dyma rai o'r gwallau mwyaf cyffredin i wylio amdanynt yn ystod y gaeaf...
1. Tywyllgoll
Mae dyddiau byr y gaeaf yn golygu llai hyblygrwydd o ran amseru. Boed hynny trwy gynllunio gwael, gwall mordwyo neu anffawd na ragwelwyd, mae llawer yn cael eu dal allan ac yn gorffen i fyny’n sownd ar y bryn pan fydd hi’n nosi.
Sut i osgoi: Dechreuwch yn gynnar, cynlluniwch eich diwrnod yn iawn a chofiwch ddod â fflachlampau pen gyda chi bob amser, hyd yn oed os ydych chi'n cynllunio diwrnod allan byr - oherwydd dydych chi byth yn gallu bod yn hollol sicr. Gall y datrusiadau fod yn syml, ond byddech chi'n synnu pa mor aml y mae pobl yn eu hesgeuluso neu'n eu hanghofio.
2. Mynd ar goll
Yn yr haf, mae gwall llywio fel arfer yn golygu, ar y gwaethaf, daith gerdded hirach, oerach a mwy blinedig na fwriadwyd. Yn y gaeaf gall fod yn angheuol, oherwydd y risg o ildio i ddinoethiad. Mae garwder ychwanegol tywydd y gaeaf yn gwneud gwallau oherwydd blinder yn fwy tebygol, tra bod dod o hyd i'ch ffordd yng ngwactod dinodwedd gwyngod yn un o'r tasgau llywio mwyaf brawychus - a pheryglus - sy'n bodoli.
Sut i'w osgoi: Mae llawer o ganolfannau a darparwyr addysg awyr agored yn cynnal cyrsiau mordwyo gaeaf.
3. Cysgu’n hwyr
Er ei fod yn dorcalonnus i’r rhai hynny ohonom nad ydyn ni’n cythruddo ‘pobl y bore’, mae gorwedd yn y gaeaf yn gyffredinol yn syniad gwael. Mae dechrau hwyr yn golygu bod llai o gyfle i wallau beidio ag effeithio a phethau, a mwy o siawns o orfod cerdded yn y tywyllwch, a all gyfrannu at ddamweiniau.
Sut i osgoi: Deffrowch yn for! Gosodwch y larwm a rhowch gymaint o amser â phosib i chi'ch hun.
4. Cynllunio gwael
Mae damweiniau yn y gaeaf yn aml yn deillio o baratoadau gwael; mae pethau fel pobl yn dewis her sy’n ormod iddynt, neu beidio â dewis llwybrau dianc gweddus yn aml yn arwain, fel dominos, at lawer o'r gwallau eraill a restrir yma. Mae'r siawns o gamgymeriadau yn fwy, ac mae'r canlyniadau'n fwy difrifol.
Sut i osgoi: Cofiwch y dywediad milwrol Prydeinig ynghylch y 7 P: ‘Proper Planning and Preparation Prevents Piss Poor Performance’. Cofiwch fod pethau'n aml yn cymryd llawer mwy o amser yn y gaeaf. Mae hi’n syniad da iawn i greu cynllun B, C, D ac E, gan ddibynnu ar eich cynnydd ac amodau’r diwrnod.
5. Baglu
Mae’r gaeaf gallu achosi amodau heriol ac amrywiool dan draed – eira dwfn, névé caled, ferglas llithrig – yn aml wedi’u cyfuno mewn ffyrdd anrhagweladwy, gan wneud llithro’n fwy tebygol. Mae anghofio eich bod yn gwisgo cramponau a baglu dros eich pigau eich hun yn gamgymeriad cyffredin arall, yn aml tua diwedd y dydd pan fydd pobl wedi ymlacio, yn sgwrsio ac wedi peidio canolbwyntio.
Sut i osgoi: Mae’n hawdd gadael i’ch meddwl grwydro pan fyddwch wedi blino – peidiwch. Cofiwch y safiad coes lydan ‘John Wayne’ wrth wisgo cramponau.
6. Rhoi cramponau ymlaen yn rhy hwyr
Gall stopio i glymu cramponau ymddangos yn waith caled, yn enwedig mewn gwyntoedd llai na sero neu stormydd eira. Ond peidiwch â chael eich temtio i’w ohirio cyn hired â phosibl – mae damweiniau’n aml yn deillio o bobl yn ei gadael yn rhy hwyr.
Sut i osgoi: Cofiwch eiriau Adam Potter, a ddisgynnodd 1,000 troedfedd i lawr ochr Sgurr Choinnich Mor, goroesodd yn groes i bob tebygolrwydd. Yn union cyn cwympo, dywedodd wrth ei gymdeithion: “Mae’n mynd braidd yn rhewllyd nawr, gadewch i ni estyn ein cramponau ymlaen a’n bwyeill iâ allan.”
7. Ymwybyddiaeth am eirlithriadau
Mae risg eirlithriadau yn beth cymhleth. Gall daroganwyr eirlithriadau ragweld lle bydd y meysydd sydd gyda’r mwyaf o berygl, ond fryn gall yr ardaloedd hyn fod yn ddeinamig a chyfnewidiol. Mae hefyd yn bosibl syrthio i faglau ‘heuristig’ (fel dilyn grŵp neu arweinydd yn ddall), neu gael eich twyllo gan lethrau graddol mwyn yr olwg. Gall y rhain i gyd gyfrannu at ddamweiniau ac maent yn gwneud hynny.
Sut i osgoi: Mae gwybodaeth, paratoi ac asesu cyson wrth fod ar y bryniau yn gwbl hanfodol o ran asesu risg eirlithriadau. Darperir rhagolygon eirlithriadau ar gyfer rhai rhannau o'r Alban gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Eirlithriad yr Alban, ond gall eirlithriadau ddigwydd yn unrhyw le (digwyddodd yr eirlithriad mwyaf marwol a gofnodwyd ym Mhrydain, gan ladd wyth o bobl, yn y South Downs.) Mae cyrsiau sgiliau gaeaf yn amhrisiadwy i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eirlithriadau.
GWYLIWCH: SGILIAU GAEAF | EIRLITHRIAAU AC ASESIAD LLWYBR
8. Dryswch tymhorol
Mae natur anwadal tywydd Prydain yn golygu mai anaml y mae’r siwrnai i mewn ac allan o’r gaeaf yn gwbl glir, ac mae llawer yn cael eu dal yn ystod misoedd ymylol yr hydref a’r gwanwyn gan bethau nad oeddent yn barod ar eu cyfer neu nad oeddent yn eu disgwyl.
Sut i osgoi: Gwyliwch am bethau fel tir wedi rhewi’n annisgwyl yn yr hydref, neu ddarnau o eira yn y gwanwyn. Hyd yn oed o fewn tymhorau mae anomaleddau'n gyffredin - swmp o eira ym Mehefin, ac yna Ionawr yn dadmer. Ym Mhrydain mae'n rhaid i ni ddisgwyl yr annisgwyl.
9. Cit ddiffygiol
Bydd caledwch tywydd y gaeaf yn amlygu unrhyw ddiffyg yn eich offer, waeth pa mor fach. Gall anghofio neu hepgor eitemau fod yn gostus iawn hefyd – gall peidio â chael gogls mewn eira caled eich gwneud yn ddall i bob pwrpas, tra gall colli pâr o fenig fod yn drychinebus.
Sut i osgoi: Ydych chi'n ymchwilio i wneud yn siŵr bod eich cit wedi'i ddiweddaru. Paciwch ddarnau sbâr o eitemau colladwy fel menig a hetiau. Dewch ac ystod gynhwysfawr o offer brys.
10. Anghofio mwynhau
Gallai darllen y rhestr hon ymddangos ychydig yn negyddol ac yn frawychus. Ond mae peryglon ychwanegol y gaeaf yn dod law yn llaw â gwobrau ychwanegol: yn aml gall cerdded bryniau yn y misoedd oerach fod yn ysblennydd, yn werth chweil ac yn fwy cofiadwy nac yn yr haf. Arhoswch yn ddiogel, gan adnabod eich tefynau, a byddwch yn barod - ond cofiwch, ar ddiwedd y dydd, i'w fwynhau.
Related Content
Hill Walking Events
BMC members are invited to join a peer-led walk, hosted by BMC Peak Area volunteers, with local BMC volunteer Bev England guiding the route. This social walk will explore Baslow Edge and Curbar Edge, returning alongside the River Derwent. We’re excited to welcome you for a memorable day in the outdoors!
Article
When it comes to gift-giving, we know the best things in life aren't always 'things'! Team BMC have been hard at work putting together a list of really great Christmas gift ideas that are a bit ‘outside the box’...
Mynydda
With the theme of this year's International Mountain Day, Wed 11 Dec, being “Mountain solutions for a sustainable future – innovation, adaptation and youth”, we share our 11 top tips for upping your winter game from the experts, speaking at three universities as part of the BMC Winter Lecture Series this year.
Hill Walking Events
BMC members are invited to join a Social Hike in the High Peak delivered by Members of the Rucksack Club on Saturday 30th November 2024
Mountaineering Destinations
Want to know everything you need to know about how to climb the Breithorn - one of the classic "4,000ers". Mountain Guide Andy Perkins offers his insider tips.
Get Climbing
Climbing walls are a great way to start climbing and to stay fit. We’ve made it easy for you to discover local climbing wall in your area. Take a look at our BMC Climbing Wall Finder.
Indoor Climbing Articles
If anyone is out there and is looking to start competitions, where would they look?