Add Your Voice To Support Nature Restoration In Wales

Posted by Anna Paxton on 26/04/2023
Photo: Niall Grimes

(Fersiwn Gymraeg isod 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿) Add Your Voice To Support Nature Restoration In Wales

From red kites swooping and hovering as we hike through the Bannau Brycheiniog, to rare alpine plants that make their home in the crags we climb at, nature accompanies climbers, hillwalkers and mountaineers on every journey outdoors. Research shows that connecting with nature has a real positive effect on our wellbeing, and it’s self-evident that the wildlife that surrounds us is fundamental to our experience when visiting wild places we love. These places, and the life that should thrive in them, are the places we must take action to protect.

In Wales, none of our natural ecosystems – from coasts to mountains – are considered resilient enough to face the threat of climate change. We are one of the most nature-depleted countries on the planet. While these issues can seem too big for individuals to tackle, or too distant to influence, BMC members can take positive action to demand that land in Wales is managed in a way that protects and restores nature, strengthening our connection with it. 

The Agriculture (Wales) Bill

Nature in Wales is at risk – a future where people and nature thrive depends on a strong and ambitious new Agriculture Bill for Wales. If drafted correctly, the Bill has the potential to pave the way for a new system of agricultural payments which have agroecology at its heart; improving food & farming systems, supporting regenerative farming, and putting people - farmers, food producers and citizens – at the heart of solutions. In turn, it can support a renewed and restored landscape, lush with diverse plant life and busy with animals, birds and insects. Nature enhances our experience as climbers, hill walkers and mountaineers, and if this act is right, it will do so for generations to come.

For this to happen, we need to ensure that the Agriculture (Wales) Bill is strong enough to deliver the changes required. Farming is at the heart of how land is used in Wales - almost 90% of our land is farmed, so supporting farmers to adopt climate and nature friendly farming practices is crucial. What’s now being proposed ignores the importance of nature restoration – restoring nature must be on the face of the Agriculture Bill. We only have until the start of May to get our voices heard.

Add Your Voice Now - Time Is Running Out For Nature In Wales

The BMC encourages members in Wales to sign the WWF petition today to add your voice and show Senedd Members that people across Wales demand a strong Agriculture Bill which commits to restoring nature.

Sign the petition at the WWF website: Wales: Land Of Our Future

Codwch Eich Llais Er Mwyn Cefnogi Adywio Natur Yng Nghymru

O farcutiaid coch yn hofran uwchben wrth i ni heicio drwy'r Bannau Brycheiniog, at blanhigion alpaidd prin sy'n ymgartrefu yn y clogwyni rydyn ni'n eu dringo, mae byd natur yn cydfynd gyda dringwyr, cerddwyr a mynyddwyr ar bob taith yn yr awyr agored. Dangosai ymchwil bod ymgysylltu â byd natur yn cael effaith gadarnhaol wirioneddol ar ein lles, ac mae’n amlwg bod y bywyd gwyllt o’n cwmpas yn sylfaenol i’n profiad wrth ymweld â’r lleoedd gwyllt yr ydym yn eu caru. Y lleoedd hyn, a’r bywyd a ddylai ffynnu ynddynt, yw’r lleoedd y mae’n rhaid inni weithredu i’w hamddiffyn.

Yng Nghymru, nid yw’r un o’n hecosystemau naturiol – o arfordiroedd i fynyddoedd – yn ddigon gwydn i wynebu bygythiad newid hinsawdd. Rydyn ni'n un o'r gwledydd sydd â'r dirywiad mwyaf o ran natur ar y blaned. Er bod y materion hyn yn gallu ymddangos yn rhy fawr i unigolion fynd i’r afael â nhw, neu’n rhy bell i ni ddylanwadu arnynt, gall aelodau’r BMC gymryd camau cadarnhaol i fynnu bod tir yng Nghymru yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n amddiffyn ac yn adfer byd natur ac yn cryfau ein cysylltiad ag ef.

Y Mesur Amaethyddol (Cymru)

Mae byd natur yng Nghymru mewn perygl – mae dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu yn dibynnu ar Fil Amaethyddiaeth newydd cryf ac uchelgeisiol i Gymru. Os caiff ei ddrafftio’n gywir, mae gan y Bil y potensial i gymell system newydd o daliadau amaethyddol sydd ag agroecoleg yn ganolog iddi; gwella systemau bwyd a ffermio, cefnogi ffermio adfywiol, a rhoi pobl - ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a dinasyddion - wrth wraidd atebion. Gall gynnal tirwedd sydd wedi'i adnewyddu a'i adfer, yn ffrwythlon gyda botaneg amrywiol ac yn frith o anifeiliaid, adar a phryfed. Mae natur yn cyfoethogi ein profiad fel dringwyr, cerddwyr a mynyddwyr, ac os yw’r Bil hon yn llwyddiant, bydd yn gwneud hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen inni sicrhau bod Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn ddigon cryf i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen. Mae ffermio wrth wraidd sut mae tir yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru – mae bron i 90% o’n tir yn cael ei ffermio, felly mae cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio sy’n garedig tuag at yr hinsawdd a natur yn hollbwysig. Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn awr yn anwybyddu pwysigrwydd adfer natur – rhaid i adferiant byd natur fod ar wyneb y Bil Amaethyddiaeth. Dim ond tan ddechrau mis Mai sydd gennym i sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed.

Ychwanegwch Eich Llais Rwan- Mae Amser Bron Ar Ben I Arbed Natur Yng Nghymru

Mae’r BMC yn annog aelodau yng Nghymru i lofnodi deiseb WWF heddiw i ychwanegu eich llais a dangos i Aelodau’r Senedd fod pobl ledled Cymru yn mynnu Bil Amaethyddiaeth cryf sy’n ymrwymo i adfer byd natur.

Llofnodwch y ddeiseb ar wefan WWF: https://www.wwf.org.uk/wales/land-of-our-future



« Back

Post a comment Print this article

This article has been read 6782 times

Post a Comment

Posting as Anonymous Community Standards
3000 characters remaining
Submit
Your comment has been posted below, click here to view it
Comments are currently on | Turn off comments
0

There are currently no comments, why not add your own?

BMC MEMBERSHIP
Join 82,000 BMC members and support British climbing, walking and mountaineering. Membership only £16.97.
Read more »
BMC SHOP
Great range of guidebooks, DVDs, books, calendars and maps.
All with discounts for members.
Read more »
TRAVEL INSURANCE
Get covered with BMC Insurance. Our five policies take you from the beach to Everest.
Read more »