Cyfres Dringo Leucenctid 2023

Posted by Zoe Spriggins on 26/05/2023

Cystadleuaeth ddringo i bobl ifanc yw Cyfres Ddringo Ieuenctid y BMC. Mae’n gyfres boblogaidd dros ben sy’n denu cannoedd o ddringwyr ifanc o bob cwr o’r wlad.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i gystadleuwyr newydd, yn ogystal ag i ddringwyr sy’n hen law ar gystadlu o’r categorïau Ieuenctid E i Ieuenctid A. Gweler y tabl categorïau isod i weld a yw eich plentyn yn gymwys i gystadlu.

Blwyddyn

y

Digwyddiad

Blwyddyn Geni

Ieuenctid E

Ieuenctid D

Ieuenctid C

Ieuenctid B

Ieuenctid A

2023

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2006

2024

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2007

2025

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

2008

2026

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2011

2010

2009

Ceir pedair rownd ranbarthol; dwy rownd raffau a dwy rownd fowldro. Mae pob rownd yn cynnwys wyth digwyddiad gwahanol a gynhelir ar yr un pryd ar draws wyth rhanbarth gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y gyfres yn dirwyn i ben mewn Rownd Derfynol Fawr lle caiff y tri a ddaeth i’r brif ym mhob categori o holl ranbarthau’r BMC, ac o’r Alban ac Iwerddon, eu gwahodd i gymryd rhan.

Ar ddiwedd y rownd ranbarthol olaf, sgôr gyfun tri chanlyniad gorau pob cystadleuydd yn y Gyfres fydd yn cyfrif fel eu sgôr yn y Gyfres.  Bydd y tri chystadleuydd gorau ym mhob categori ym mhob rhanbarth ar ddiwedd y Gyfres ranbarthol sydd wedi cystadlu mewn o leiaf tair rownd yn gymwys i ymgeisio yn y Rownd Derfynol Fawr. Nid yw Ieuenctid E yn gymwys i fynychu’r Rownd Derfynol Fawr.

Yr Alban
Mae Mountaineering Scotland yn cynnal eu Cyfres Ddringo Ieuenctid eu hunain sy’n cynnwys pedair rownd, dwy rownd fowldro a dwy rownd raffau. Bydd y tri sy’n dod i’r brig ym mhob categori cymwys, ar ôl y pedair rownd, yn gyrraedd Tîm yr Alban a chânt eu gwahodd i fynychu’r Rownd Derfynol Fawr. 

Iwerddon
Mae Mountaineering Ireland yn cynnal eu Cyfres Ddringo Ieuenctid eu hunain a chaiff y tri a ddaw i’r brig ym mhob categori eu gwahodd i fynychu’r Rownd Derfynol Fawr.

DARLLENWCH: A rough guide to the Youth Climbing Series

Mae’r ffenestr gofrestru yn agor ddydd Gwener 30 Mehefin ac yn cau ddydd Llun 14eg Awst am hanner dydd

 

Dyddiadau: Cymru a Lloegr

Dyddiadau ar gyfer pob rownd a rhanbarth yn Lloegr:

Rownd 1        16 Medi -  (bowldro)
Rownd 2        30 Medi -  (rhaffau)
Rownd 3        21 Hydref -  (bowldro)
Rownd 4        4 Tachwedd -  (rhaffau)

Dyddiadau ar gyfer pob rownd yng Nghymru:

Rownd 1        16 Medi -  (bowldro)
Rownd 2        17 Medi -  (rhaffau)
Rownd 3        4 Tachwedd -  (bowldro)
Rownd 4        5 Tachwedd -  (rhaffau)

Pwy sy’n gymwys i gystadlu
I weld a yw eich plentyn yn gymwys i gymryd rhan yn y gyfres, gweler yma.

Mae’r ddolen uchod yn cynnwys y canlynol:

  • Categorïau oedran
  • Gofynion ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid a gwylwyr
  • Awgrymiadau da i rai sy’n cystadlu am y tro cyntaf

Canlyniadau
Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi isod erbyn 5pm ar y dydd Llun ar ôl pob rownd.

  • Mae canlyniadau 2022 ar gyfer pob rownd i’w gweld yma
  • Mae canlyniadau Rownd Derfynol Fawr 2022 i’w gweld yma

Rownd Derfynol Fawr
Digwyddiad deuddydd, drwy wahoddiad yn unig, ar gyfer y tri chystadleuydd gorau o bob categori a phob rhanbarth yw’r Rownd Derfynol Fawr. Codir tâl ymgeisio ar wahân o £60 ar gyfer y Rownd Derfynol Fawr.  Rhaid i’r cystadleuwyr fynychu’r ddau ddiwrnod. 

Diwrnod 1                - dydd Sadwrn 26 Tachwedd          
Diwrnod 2                - dydd Sul 27 Tachwedd            

Cynhelir y Rownd Derfynol Fawr yn TBC, cyhoeddir manylion pellach maes o law.

Amseroedd cystadlu
Caiff amseroedd pob rownd eu cyhoeddi isod ar y dydd Mawrth cyn pob rownd a chânt eu e-bostio at bob cystadleuydd.

Rhanbarthau BMC:
Caiff cystadleuwyr gystadlu yn y rhanbarth o’u dewis ond RHAID iddynt gystadlu yn yr un rhanbarth gydol y gyfres gyfan.


Lleoliadau
Caiff cystadleuwyr gystadlu yn y rhanbarth o’u dewis ond RHAID iddynt gystadlu yn yr un rhanbarth gydol y gyfres gyfan.

Llundain a Gogledd de-ddwyrain Lloegr
160 o ymgeiswyr yn unig 
Rownd 1: Stronghold Climbing Centre
Rownd 2: The Westway
Rownd 3: 
Rownd 4: Big Rock Bond

Llundain a De de-ddwyrain Lloegr
160 o ymgeiswyr yn unig 
Rownd 1: Substation Brixton
Rownd 2: Highsports Brighton
Rownd 3: Boulder Shack
Rownd 4: Calshot Activities Centre

Canoldir Lloegr 
100 o ymgeiswyr yn unig
Rownd 1: The Climbing Station
Rownd 2: 
Rownd 3: Flash Climbing Centre
Rownd 4: Nottingham Climbing Centre

Gogledd Ddwyrain Lloegr a’r Llynnoedd
120 o ymgeiswyr yn unig
Rownd 1: Durham Climbing Centre
Rownd 2: KendallWall
Rownd 3: Friction Bouldering
Rownd 4: Newcastle Climbing Centre

Gogledd-orllewin Lloegr a Swydd Efrog
150 o ymgeiswyr yn unig 
Rownd 1: BlocHaus Manchester
Rownd 2: Summit Up Oldham
Rownd 3: CityBloc
Rownd 4: PrestonWall

Gogledd de-orllewin Lloegr
100 o ymgeiswyr yn unig
Rownd 1: TCA The Mothership
Rownd 2: 
Rownd 3: 
Rownd 4: TCA The Arc

De de-orllewin Lloegr
160 o ymgeiswyr yn unig
Rownd 1:  
Rownd 2: The Quay
Rownd 3: The Tide 
Rownd 4: Plymouth Active

Cymru
150 o ymgeiswyr yn unig
Rownd 1: The Boardroom
Rownd 2: The Beacon
Rownd 3: 
Rownd 4: Rock UK Summit Centre

Mae gan bob rhanbarth uchafswm ymgeisio unigryw ar eu rowndiau rhanbarthol, ac mae hynny’n seiliedig ar y nifer fwyaf o gystadleuwyr y gall y wal leiaf yn eu rhanbarth ei chymryd. Rhaid defnyddio hwn i sicrhau diogelwch y cystadleuwyr, y gwylwyr, y gwirfoddolwyr a staff y waliau. 

Sut i gofrestru
Mae’r ffenestr gofrestru yn agor ar 30 Mehefin am 8am ac yn cau ar 14 Awst am hanner dydd. Ni chewch gofrestru ar ôl y dyddiad cau.

I ymgeisio rhaid ichi lenwi ein ffurflen archebu ar-lein, a thalu’n llwyddiannus, erbyn y dyddiad cau. NI fydd ffurflenni heb daliad yn cael eu cyfrif.

RHAID i bob cystadleuydd fod yn aelod o’r BMC i ymgeisio.

Ymunwch â'r BMC o £1.56 y mis

Os nad ydych wedi defnyddio’r system archebu ar-lein o’r blaen, bydd angen ichi greu cyfrif i fewngofnodi.

Ni chewch gofrestru ar y diwrnod ar unrhyw gyfrif.

Os cewch anawsterau â’r system archebu, cysylltwch â ni cyn y dyddiad cau.    

Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan holl bwysig i gynnal Cyfres Ddringo Ieuenctid y BMC. Os gwelwch yn dda, gwirfoddolwch, os gallwch. Po fwyaf o wirfoddolwyr a gawn, y llyfnaf y bydd digwyddiadau’n rhedeg.

  • Y gofynion ar gyfer gwirfoddolwyr yma (bowldro)
  • Y gofynion ar gyfer gwirfoddolwyr yma (rhaffau)             

Fe all rhieni cystadleuwyr gadarnhau eu bwriad i wirfoddoli ar y ffurflen gofrestru.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai unrhyw un arall sy’n dymuno gwirfoddoli e-bostio tim y gyfres ddringo ieuenctid gan nodi pa ranbarth, rowndiau a rolau rydych chi’n gallu eu gwneud. Caiff y rolau eu clustnodi ar y diwrnod.

Costau pob rownd
Rhaid i bob cystadleuydd fod yn aelod o’r BMC i ymgeisio. Ymunwch yma.

£120.00  - ar gyfer y pedair rownd
£30.00  - ar gyfer pob rownd unigol

Cymhorthdal incwm / Credyd Cynhwysol:

£60.00  - ar gyfer y pedair rownd
£15.00  - ar gyfer pob rownd unigol

(mae gofyn dangos prawf, cysylltwch â - ycs@thebmc.co.uk)

Polisi canslo

  • Os ydych yn canslo llai na phum diwrnod busnes cyn y gystadleuaeth – ni fydd gennych hawl i ad-daliad.
  • Os ydych yn canslo mwy na phum diwrnod busnes cyn y gystadleuaeth – fe gewch ad-daliad o 50% am y rownd/rowndiau rydych wedi’u canslo.
  • Os caiff rownd ranbarthol ei chanslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl – bydd gennych hawl i ad-daliad llawn am y rownd honno.

Os nad ydych yn bwriadu mynychu’r rowndiau rydych chi wedi cofrestru arnynt mwyach, cofiwch anfon e-bost atom i sicrhau eich bod yn gymwys i gael ad-daliad.

Rhieni/Gwarcheidwaid, Gwylwyr a Hyfforddwyr
Un rhiant/gwarcheidwad yn unig a ganiateir gyda phob cystadleuydd ym mhob rownd.

Caiff rhiant/gwarcheidwad, gwyliwr neu hyfforddwr ychwanegol fynychu dim ond os ydynt yn cyflawni rôl gwirfoddolwr.

Gweler isod am eglurhad pellach:

  • Caniateir i hyfforddwyr fynychu os ydynt yn gweithredu fel yr unig unigolyn sy’n gyfrifol am y plentyn ar y diwrnod
  • Caiff hyfforddwyr fynychu os ydynt yn gwirfoddoli
  • Caiff hyfforddwyr fynychu os oes rhiant/gwarcheidwaid yn gwirfoddoli ac os yw’r hyfforddwr yn gweithredu fel yr unig unigolyn cyfrifol. Fel uchod.
  • Nid ydym yn caniatáu ar gyfer unrhyw wylwyr o unrhyw fath. Nid ydym ond yn caniatáu unigolion ychwanegol os ydynt yn gweithredu fel gwirfoddolwyr neu fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am y plentyn ar y diwrnod.
  • Os oes unigolion ychwanegol yn talu tâl mynediad i’r wal, fe all y ganolfan eich troi chi ymaith yn hytrach na chwsmeriaid dringo neu os ydynt yn cyrraedd eu capasiti. Rhaid i leoliadau croesawu lynu wrth reoliadau diogelwch a thân a sicrhau nad yw unigolion ychwanegol yn effeithio ar allu’r ganolfan i weithredu.

Rheolau a Rheoliadau 2023

Cofiwch ymgyfarwyddo â’r rheolau cyn y gystadleuaeth.

  • Lawrlwythwch y rheolau a’r Rheoliadau ar gyfer Cyfres Ddringo Ieuenctid 2023 yma
  • Mae arweiniad bras i’r Gyfres Ddringo Ieuenctid i’w gael yma

Gwybodaeth bellach

  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost ar ycs@thebmc.co.uk
  • Mae’r newyddion diweddaraf i’w gael ar dudalen Facebook y Gyfres Ddringo Ieuenctid yma
  • Mae’r ffenestr gofrestru ar gyfer y gyfres gyfan yn agor ar 30 Mehefin 2023 am 8am
  • Anfonir e-bost gyda manylion y digwyddiad at yr holl gystadleuwyr ar y dydd Mawrth cyn pob rownd
  • Gweler yma am ragor o gystadlaethau i bobl ifanc
  • I gael esboniad ar y gwahaniaeth rhwng arwain a rhaffu o’r top, gweler  A Parents Guide to C

 

 


Youth Outdoor Climbing Courses

Whether you want to make the leap from indoor climbing into Sport or Trad climbing outdoors, we run many courses across the country and throughout the year that are specially for 11-17 year olds.

BOOK: Youth Trad Climbing Course

BOOK: Youth Sport Climbing Course

Subsidised Youth Course Places

There are a large number of free places on courses for families who may struggle to afford it. Any families who live in rented accommodation and who receive income support or universal credit may contact the instructor of a course or Alex West for a place.

U27 Membership 

From just £1.77 a month it's never been easier to join and support our work: 

JOIN TODAY: BMC Under 27 Membership


« Back

Print this article

This article has been read 1913 times

TAGS

Click on the tags to explore more

RELATED ARTICLES

Youth Climbing Series 2023
0
Youth Climbing Series 2023

The BMC Youth Climbing Series is a climbing competition for young people. The series is extremely popular and attracts hundreds of young climbers nationwide.
Read more »

National Competitions Schedule 2024
0
National Competitions Schedule 2024

Following a review, we are pleased to present the provisional competitions calendar for 2024.
Read more »

OFF THE WALL: England Squad Applications - Round 2
1
OFF THE WALL: England Squad Applications - Round 2

The second round of applications for the England Squad will soon open.
Read more »

Comments are disabled
Comments are currently on | Turn off comments
0

There are currently no comments, why not add your own?

RELATED ARTICLES

Youth Climbing Series 2023
0

The BMC Youth Climbing Series is a climbing competition for young people. The series is extremely popular and attracts hundreds of young climbers nationwide.
Read more »

National Competitions Schedule 2024
0

Following a review, we are pleased to present the provisional competitions calendar for 2024.
Read more »

OFF THE WALL: England Squad Applications - Round 2
1

The second round of applications for the England Squad will soon open.
Read more »

BMC MEMBERSHIP
Join 82,000 BMC members and support British climbing, walking and mountaineering. Membership only £16.97.
Read more »
BMC SHOP
Great range of guidebooks, DVDs, books, calendars and maps.
All with discounts for members.
Read more »
TRAVEL INSURANCE
Get covered with BMC Insurance. Our five policies take you from the beach to Everest.
Read more »