25 mlwyddiant Caradoc ar y Copa

Posted by Sarah Stirling on 22/05/2020
25 mlwyddiant Caradoc ar y Copa

Gyda’r holl gysylltiadau rhwng Cymru a Chomolungma, ‘does ryfedd ein bod yn falch o bob cyfle i ddathlu llwyddiant y Cymro cyntaf i gyrraedd y copa. Pum mlynedd ar hugain yn ôl, ar 23 Mai 1995 y cyflawnodd Caradoc Jones o Bontrhydfendigaid y gamp honno.

Cyn hynny, fel teyrnged i George Everest (a ynganwyd “Ifrest”) o ardal Crughywel y rhoddwyd i’r mynydd yr enw a ddefnyddir yn y gorllewin. Charles Bruce, oedd yn adnabod Cwm Cynon yn dda gan ei fod yn fab i Arglwydd Aberdâr, oedd arweinydd ymgyrchoedd 1922 a 1924 i geisio dringo’r mynydd: collwyd Mallory ac Irvine ar yr ochr ogleddol ar yr ail o’r rhain.

Yn 1953, cyrhaeddodd Charles Evans y copa deheuol (8,748m) gyda Tom Bourdillon, ond gorfod troi yn ôl oherwydd trafferthion gyda’r offer ocsigen. Ac yn 1978 aeth Eric Jones yn uwch na’r bwlch deheuol gan gario’r offer camera a heb ocsigen wrth gefnogi ymgyrch lwyddiannus yr Awstriaid, Messner a Habeler. Ac yn ddiweddarach, ar 24 Mai 2007, Tori James o sir Benfro oedd y Gymraes gyntaf i gyrraedd y copa.

Ond nôl at hanes Caradoc (Crag) Jones, a fu’n rhannu ei atgofion gyda Sarah Stirling yn ddiweddar. Yn gyn-fyfyriwr o brifysgol Bangor (bioleg morol ac eigioneg), roedd eisoes wedi bod y cyntaf i ddringo rhai copaon yn y Karakoram a De America pan gafodd gynnig gan Henry Todd i fod yn rhan o daith ryngwladol i’r Himalaya yn 1995. Roedd Caradoc a Henry wedi dringo tipyn gyda’i gilydd, gan gynnwys bod y cyntaf i ddringo dringfeydd gaeaf Labyrinth Direct a Fly Direct yn yr Alban, a thaith i fynydd Sarmiento ar Terra del Fuego. Henry oedd trefnydd y daith honno, a phan aeth pethau o chwith gwnaeth addo i Caradoc y byddai yn gwneud iawn am hynny rhyw ddydd.


Trwy gydol yr erthygl hon: detholiad o luniau Crag o Everest

A hynny wnaeth arwain at y gwahoddiad i Caradoc ymuno â’r criw fyddai’n anelu am Everest ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 1995, mewn cyfnod cyn i siniciaeth ddatblygu ynghylch dringo’r mynydd a phan oedd cyrraedd y copa yn dal i fod yn uchelgais teilwng. Dwy fil o bunnoedd oedd angen i Caradoc ei gyfrannu at y costau, gan gael y rhyddid i ddewis yr arddull yr oedd yn ei ddymuno: dim tywysydd, dim Sherpas ar gyfer y dringo ei hun, dim ocsigen, a dringo fesul dau gydag aelod arall o’r tim.

Parwyd Caradog gyda Michael Jorgensen o Ddenmarc. Er bod Michael yn talu i fod ar y daith, perthynas gyfartal oedd rhwng y ddau yn hytrach na bod Caradog yn tywys. Ac roedd Michael am ddilyn yr un arddull â Caradog: gwneud y milltiroedd caled, wythnosau o gario llwythi a thorri llwyfannau, sefydlu gwersylloedd a chario stoc. Ar y dechrau, roedden nhw wrthi ar yr ochr ddeheuol, gan gynorthwyo rhai o gleientiaid Henry Todd ar rai o’r copaon is (Pokalde ac Island Peak): roedd hyn yn gyfle i ennill ffitrwydd a chyfarwyddo â’r uchder.

Yna dychwelyd i Kathmandhu a chroesi i Tibet er mwyn rhoi cynnig ar grib ogleddol Everest, oedd ar y pryd ond wedi ei dringo ddwywaith gan Brydeinwyr: Dawson Stellfox o Ogledd Iwerddon ac yna John Tinker yn ddiweddarach. Wedi wythnosau o fynd nôl a mlân, lan a lawr a chael ambell antur, cafwyd cyfle i fynd i fyny at 8,000 metr. Yn dilyn hynny, cerdded lawr 20km i’r “base camp” ger rhewlif Dwyrain Rongbuk er mwyn gorffwys cyn rhoi cynnig ar y copa.

Tra yno, cafodd Caradoc drafferthion stumog ac ar yr un pryd roedd y tywydd yn gwella gan roi cyfle i amryw gyrraedd y copa, gan gynnwys rhai o blith y tim ehangach roedd Caradoc a Michael yn rhan ohono. Er na chafwyd gorffwys go iawn, o leia roedd y ddau wedi cael rhai dyddiau ar lai o uchder cyn dringo eto. Ar rewlif Rongbuk, gwelwyd Alison Hargreaves ar ei ffordd lawr, yn cario tusw o flodau ffug oedd wedi ei gyflwyno iddi gan Bwyliaid fel teyrnged i’w champ o gyrraedd y copa ar ei phen ei hun, heb gefnogaeth a heb ocsigen.

Wedi noson yn y “base camp uwch”, roedd angen mynd ymlaen am y bwlch gogleddol ac yno digwydd cwrdd â Leo Dickinson a Rob Parker, oedd yno gydag Eric Jones i ffilmio ymdrech am y copa. Ond roedd y criw hwnnw i gyd yn dioddef o amrywiol anhwylderau, a gofynnwyd i Caradoc a fyddai’n hapus i fod yn destun y ffilm: tan hynny, ‘doedd Caradoc heb sylweddoli bod yr anrhydedd o fod y Cymro cyntaf i’r copa yn dal ar gael. Ar yr amser hwn, ymunodd Nicholas Chapaz, dringwr o Ffrainc a oedd yn rhan o garfan Henry Todd, fel eu bod yn dringo yn dri.

Erbyn cyrraedd Gwersyll 2 (7,500m) roedd y tywydd yn gwaethygu: nhw oedd y tri olaf o’r criw oedd yn dal ar y mynydd, roedd amser yn prinhau a doedden nhw ddim mewn cytgord â’r cylch tywydd. Penderfynwyd aros yno am noson arall, ac wedi i’r gwynt ostwng ychydig y diwrnod canlynol brwydro ymlaen i’r gwersyll uchaf ar 8,300m. Roedd y rhagolygon tywydd yn parhau yn wael, a’r penderfyniad oedd aros diwrnod a noson arall gan ddefnyddio ocsigen: fel arall, fydden nhw ddim mewn cyflwr i roi cynnig am y copa.

Roedd Nicholas yn benderfynol o beidio defnyddio ocsigen, felly roedd yn rhaid iddo fentro am y copa y bore hwnnw. Ond yn anffodus, yn y tywydd gwael fe gollodd y llinell ar ymylon y grib a mynd i drafferthion yn y tywyllwch cyn gorfod dringo nôl lawr at Caradoc a Michael wrth i’r wawr dorri. Penderfynodd ddychwelyd lawr yn syth, er mwyn gorffwys cyn rhoi cynnig arall arni heb ocsigen. Arhosodd y ddau arall yn eu pabell “bivvy” fechan, gan dybio mai hwn fyddai eu cyfle olaf.

Tair noson oedd yr arhosiad i gyd, cyn i’r gwyntoedd dawelu: yn y cyfamser roedd Caradog wedi darganfod pabell fwy a oedd wedi ei gadael gan griw o Awstria. Symudwyd i mewn yno a manteisio ar rai bwydydd a diodydd oedd wedi eu gadael, ac offer ar gyfer coginio gyda nwy. Ond y broblem fwyaf oedd cael digon o ocsigen: roedd angen cadw dau silindr ar gyfer yr ymdrech am y copa. Roedd Henry wedi prynu rhai silindrau oedd dros ben gan griw Condor, a soniwyd bod silindrau eraill wedi eu rhannol ddefnyddio a’u gadael ar silff tua 500 troedfedd yn uwch.

Bob dydd, byddai Caradoc yn cropian yno a phrofi’r poteli ocsigen gyda’r mesurydd pwysedd roedd Henry wedi ei roi iddo rhag ofn y byddai’n ddefnyddiol, a marcio pa rai oedd yn chwarter, hanner neu dri-chwarter llawn. Dyna sut y cafwyd digon o ocsigen ar gyfer cysgu, gan gadw tri silindr ar gyfer y copa.

Roedd ganddyn nhw ddigonedd o fwyd: cawl o Japan a siocled o Dde America ymhlith yr hyn oedd wedi ei adael gan eraill. A ‘doedd neb arall ar ochr ogleddol y mynydd erbyn hyn. Ond islaw roedd Henry yn pryderu amdanyn nhw, ac roedd eraill yn ceisio eu perswadio i ddod lawr. Roedd rhai eisiau siarad yn uniongyrchol gyda Michael er mwyn sicrhau nad oedd Caradoc yn ei gadw yn wystl ar y mynydd yn erbyn ei ewyllys: a thrwy hyn i gyd, roedd Eric Jones o gymorth mawr i gynnal eu hysbryd.

Ar y trydydd noson, roedd rhagolygon y tywydd yn dda ar gyfer y diwrnod canlynol, felly dyma godi am hanner nos gyda’r bwriad o gychwyn yn blygeiniol am ddau y bore. Ond collwyd dwyawr wrth i Charles, dringwr o ymgyrch arall, gyrraedd a cheisio eu perswadio y dylai gael dod gyda nhw. Roedd pedwar y bore yn llawer rhy hwyr i fod yn cychwyn, ond ymlaen â Caradoc a Michael ar hyd y grib ogleddol, heb raffu ond gan ddefnyddio’r rhaffau gosod fel cadarnhâd eu bod ar y trywydd cywir.

Wrth raddol ennill uchder, roedd cysgod Everest i’w weld ar ochr India o’r mynydd. Roedd y tirwedd yn anodd, cymysgedd o sgramblo rhydd a darnau serth. Roedd yr ysgol enwog ar yr “ail gam” wedi ei hadnewyddu ac yn gadarn. Yn dilyn tymor y monswn, mae lluniau yn dangos llethr eira fan hyn gan arwain rhai i gredu y gallai Mallory ac Irvine fod wedi llwyddo. Ond cyn y monswn, a heb ysgol, mae’n lethr hir, llwm, serth, rhydd a thechnegol a barn Caradoc yw na allai’r ddau arwr o’r cyfnod fod wedi llwyddo dan amodau 1924.

Tua’r gorllewin, ar hyd asgwrn cefn yr Himalaya, roedd fel pe bai crymedd y ddaear i’w weld. Roedd hynny’n dipyn o syndod i Caradoc, a hefyd pa mor denau oedd yr aer. Nid rhyw blanced gysur yn ymestyn i’r nefoedd ond haenen denau y gallech gerdded trwyddi ar ddwy goes. Fyddai Caradoc ddim yn cymryd hyn yn ganiataol byth eto.

Gan gadw at ystlys dde’r “trydydd cam”, trwy sgramblo rhydd a serth cyrhaeddwyd y grib olaf. Roedd hon yn ymestyn rai cannoedd o droedfeddi annisgwyl tuag at y copa, a oedd yn amlwg oherwydd yr hen “tripod” oedd yn crogi dros yr wyneb dwyreiniol. Nawr roedden nhw’n gwybod y bydden nhw’n cyrraedd y copa. Fel arfer, allwch chi byth fod yn siwr a ydych yn cyrraedd y gwir gopa, ond roedd y “tripod” yn rhoi sicrwydd a’u galluogi i fwynhau’r munudau olaf gan wenu’n llydan. Gyda chramponau’n sglefrio dros yr iâ caled ar yr eira olaf, fe wnaeth Caradoc a Michael yn siwr eu bod yn cyrraedd y copa gyda’i gilydd – y Cymro a’r Daniad cyntaf i wneud hynny!

Doedden nhw heb weld yr un enaid byw ers dyddiau ar wahân i ymweliad boreol Charles, a welson nhw neb yn dod i fyny o’r bwlch deheuol tra roedden nhw yno. Halwyd tua ugain munud ar y copa ac roedd un o boteli dwr Caradoc wedi rhewi’n gorn yn y sach, Roedd yn hwyrach yn y prynhawn nag a fwriadwyd, a rhaid oedd gobeithio na fydden nhw’n talu’r pris am hynny. Gan gasglu rhai darnau o siâl islaw’r copa fel cofrodd, dyma gychwyn i lawr.

Cafwyd ambell antur ar y ffordd lawr hefyd. Ar un llethr eira serth, roedd darn o hen raff gosod draean yn brin o’r gwaelod, a defnyddiodd Caradoc beg sianel mawr yr oedd wedi ei bocedu fel dagr iâ i gyrraedd man diogel. Wrth geisio cadw i fynd cyn gyflymed â phosibl, roedd ocsigen Michael yn dechrau rhewi ac roedd yn gorfod tynnu ei “gogls” er mwyn rhoi sylw iddo.

Rhoddwyd cynnig ar drwco masgiau i weld a fyddai pethau’n gwella. Lledr gwlyb, rhewllyd, “gogls” yn stemio, tir anodd – roedd angen gofal ar bob cam, a llyncwyd bar arall o siocled wedi ei loffa o babell yr Awstriaid.

Roedd ambell ddarn cerdded haws lle roedd yn bosib mwynhau’r olygfa a blasu’r gamp oedd wedi ei chyflawni. O leiaf roedd modd archwilio cyflwyr angorau a darnau o hen linellau gosod cyn ymddiried ynddyn nhw. Fel arfer, dim ond clipio ymlaen a llithro lawr yn eu menyg lledr – dim “rappel”. Cyrraedd nôl i’r babell wrth iddi dywyllu, ar gyfer eu pedwerydd noson ar 8,300m.
Roedd Charles yn dal yno, wedi gorffwys. Er bod croeso iddo ddefnyddio eu cyflenwadau nhw os am roi cynnig am y copa, penderfynu dod lawr drannoeth gyda Caradoc a Michael wnaeth e – roedd tipyn o belter i gyrraedd y bwlch gogleddol, hyd yn oed.

Wedi cyrraedd nôl i’r “base camp uwch”, roedd cyfle i Caradoc gysylltu adre a deall pa mor falch oedd ei fam o weld y newyddion yn y papurau. Yn dilyn darlledu’r ffilm gan Leo Dickinson ac Eric Jones, cafodd Caradoc ambell gomisiwn gan S4C ar gyfer rhaglenni a gynhyrchwyd gan Alun Hughes ar ran Ffilmiau’r Nant. Roedd rhain yn amrwyio o ddringo’r Totem Pole yn Tasmania i groesi Ceunant Zanskar yn Himalaya’r India, a chyfres chwe-rhan am Dde Georgia gan gynnwys bod y cyntaf i ddringo’r Three Brothers.

Ymunodd Caradoc gyda Michael Jorgensen unwaith eto ar gyfer un o’r rhaglenni hyn, dringiad cyntaf crib ddeheuol Ritterknegten yn nwyrain Yr Ynys Las. Ond cyn gallu gwireddu bwriadau eraill i ddringo gyda’i gilydd, collodd Michael ei fywyd wrth ddod lawr o gopa Makalu – cyn hynny roedd wedi gwireddu ei uchelgais o gyrraedd y saith copa. Barn Caradoc yw y byddai Michael yn mwynhau ei hun yn Valhalla ac mae’n cofio fel y byddai’n siarad llawer yn ei gwsg, ac un o’i ymadroddion dychrynllyd yn ei Saesneg gorau fyddai: “helo, cariad, rwy’n siwr gallet ti ddysgu tric neu ddau i mi”!

Wrth ystyried sut mae Everest wedi newid dros y blynydde, mae Caradoc yn gweld peth lles economaidd yn lleol, ond yn cwestiynu’r gost yn amgylcheddol. Y brif broblem yw un athronyddol, wrth i gymdeithas golli ei dealltwriaeth o wir antur. Mae Everest wedi mynd yn drafodiad masnachol ac wedi ei ddibrisio o’r herwydd.

Gan weithio fel ymgynghorydd pysgodfeydd, mae Caradoc wedi treulio cyfnodau hir yn gweithio yn Ne Georgia ac Ynysoedd y Malfinas; mae nawr yn byw yn Frodsham, Sir Gaer, yn briod gyda dau o blant yn eu harddegau, Eleanor ac Owen. Yn annisgwyl, mae’n ddiweddar wedi ymddiddori mewn beicio i lawr mynyddoedd, ac yn ystyried bod hynny’n gwneud i ddringo ymddangos fel te parti!  Ond mae’n gobeithio mynydda yn Ne Georgia yn yr hydref, os bydd amodau yn caniatau.

 


We want to say a big thanks to every BMC member who continues to support us through the Coronavirus crisis.

From weekly Facebook Lives and GB Climbing home training videos, to our access team working to re-open the crags and fight for your mountain access, we couldn’t do it without you.

Did you know that we've launched a U27 membership offer for just £1.50 / month? And with full membership from £2.50 / month, it's never been easier to join and support our work: 

https://www.thebmc.co.uk/join-the-bmc-for-1-month-U27-membership


« Back

Post a comment Print this article

This article has been read 934 times

TAGS

Click on the tags to explore more

RELATED ARTICLES

Everest 70: Tales From Basecamp
1
Everest 70: Tales From Basecamp

The BMC held Everest 70: Tales From Basecamp to commemorate the 70th anniversary of the first ascent of the world's most celebrated mountain. Hosted by Niall Grimes and surrounded by Nepali-inspired art, the audience joined us in looking back at that first ascent and heard modern stories told against the backdrop of ancient conquest. Here are some of those stories, we hope you enjoy them:
Read more »

Celebrating 100 Years of Everest
0
Celebrating 100 Years of Everest

2021 marks the centenary of the first expedition to Mount Everest. To commemorate the occasion, The Alpine Club is hosting a landmark exhibition entitled ‘Everest: By Those Who Were There’ at its premises in Shoreditch, London.
Read more »

The Porter: what it's really like to work one of the hardest jobs on the planet
6
The Porter: what it's really like to work one of the hardest jobs on the planet

Sherpas. Porters. The spine to many a mountaineering mission. Watch the documentary that gives the mountaineering community an eye-opening look at what it's really like to work one of the hardest jobs on the planet.
Read more »

Post a Comment

Posting as Anonymous Community Standards
3000 characters remaining
Submit
Your comment has been posted below, click here to view it
Comments are currently on | Turn off comments
0

There are currently no comments, why not add your own?

RELATED ARTICLES

Everest 70: Tales From Basecamp
1

The BMC held Everest 70: Tales From Basecamp to commemorate the 70th anniversary of the first ascent of the world's most celebrated mountain. Hosted by Niall Grimes and surrounded by Nepali-inspired art, the audience joined us in looking back at that first ascent and heard modern stories told against the backdrop of ancient conquest. Here are some of those stories, we hope you enjoy them:
Read more »

Celebrating 100 Years of Everest
0

2021 marks the centenary of the first expedition to Mount Everest. To commemorate the occasion, The Alpine Club is hosting a landmark exhibition entitled ‘Everest: By Those Who Were There’ at its premises in Shoreditch, London.
Read more »

The Porter: what it's really like to work one of the hardest jobs on the planet
6

Sherpas. Porters. The spine to many a mountaineering mission. Watch the documentary that gives the mountaineering community an eye-opening look at what it's really like to work one of the hardest jobs on the planet.
Read more »

BMC MEMBERSHIP
Join 82,000 BMC members and support British climbing, walking and mountaineering. Membership only £16.97.
Read more »
BMC SHOP
Great range of guidebooks, DVDs, books, calendars and maps.
All with discounts for members.
Read more »
TRAVEL INSURANCE
Get covered with BMC Insurance. Our five policies take you from the beach to Everest.
Read more »