posted on 01/12/2009

Cyfarfod Clwb Cyswllt Dringo Penfro, Tachwedd 2009

Roedd y cyfarfod hwn yn un cadarnhaol a defnyddiol iawn. Yn bresennol roedd Elfyn Jones (BMC Swyddog Mynediad a Chadwraeth Cymru) Steve Quinton (cynrychiolydd mynediad lleol) a Pat Lowman o Glwb Dringo Sir Benfro.

Bu aelodau’r cyfarfod yn trafod dringo ymhob rhan o’r Sir, ac yn siarad am ba mor aml y defnyddir rhai o’r safleoedd sydd â chyfyngiadau arnynt yn ystod y tymor nythu yng Ngogledd Sir Benfro e.e. Penbwchdy ac Ynys Deullyn ble na fu fawr ddim o ddringo yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Bu sgwrsio ynghylch creu dull fwy hyblyg o drin y cyfyngiadau yn y mannau hyn, ond dylid aros nes bydd yr arweiniad newydd yn cael ei gyhoeddi i weld a fydd mwy o ddefnyddio ar y lleoedd hyn.

Cynhyrchodd Bob Haycock (CCW) fap defnyddiol dros ben sy’n dangos ble mae’r brain coesgoch a’r hebogau tramor wedi bod yn nythu, ac a ydynt wedi magu cywion yn llwyddiannus. Rhoddodd Steve fas data i Bob sy’n cynnwys gwybodaeth am yr holl greigiau yng Ngogledd Sir Benfro er mwyn inni allu cael syniad gwell am y lleoedd mae dringwyr ac adar yn cwrdd â’i gilydd. Mae’r cyfyngiadau yn aros fel rhai’r llynedd. Mae’n ymddangos fod popeth yn gweithio’n dda ac ni fu unrhyw bwysedd i ledaenu’r cyfyngiadau ac eithrio yn Mother Carey's lle mae dau o wylogod yn nythu y tu mewn i simnai Deep Space. Rydyn yn rhoi nodyn o gyngor i’r dringwyr osgoi Inner Space, Deep Space a Star Gate os bydd yr adar yma rhwng Mawrth a Gorffennaf. Mae llwyddiant magu cywion yn edrych yn anghyson, y fran goegoch a’r hebog dramor yn gwneud yn iawn, ond nifer y carfilod yn lleihau mewn rhai ardaloedd ac yn cynyddu ychydig mewn ardaloedd eraill. Mae niferoedd y gwylanod coesddu yn gostwng yn gyflym, efallai oherwydd newid hinsawdd a thrafferthion dod o hyd i fwyd.

Bu trafodaeth ynghylch y cyngor sy’n cael ei roi am forloi ar ddiwedd yr haf a’r hydref, ac ymdrin â’r cyngor arfaethedig sy’n rhan o’r ‘arweiniad gwyrdd’ yn y canllawiau CC sydd ar ddod.

Rydym yn gobeithio gosod stanciau newydd yn ardaloedd Range West a Stackpole yn ystod y gaeaf gan ddefnyddio arian BMC. Gosododd Steve ddau stanc newydd yn y Bont Werdd, a dylai hyn wneud yr abseil ychydig yn llai pryderus.

Mae rhywun wedi bod yn gosod nifer o stanciau abseilio uwchben Chwarel Lydstep. Fe dynnodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rai o’r rhain allan oherwydd diogelwch y cyhoedd (perygl baglu). Mae’r YG yn ceisio mynd i’r afael â thyfiant ymledol yn yr ardal hon - rydym wedi cynnig y gall dringwyr helpu os oes angen cyrraedd rhai lleoedd anodd drwy abseilio.

Adroddodd yr MoD y bu 180 o ymweliadau gan ddringwyr i’r ardal saethu orllewinol, ac na fu unrhyw ddiwrnod ble roedd angen defnyddio’r cyfyngiad o 30 o ddringwyr.

I geisio rhoi mwy o wybodaeth i ddringwyr ynghylch lle i fynd a pha gyfyngiadau sy’n weithredol, rydym am osod bwrdd hysbysu yn siop TYF yn Nhyddewi gyda lluniau’r creigiau a gwybodaeth am fynediad a chadwraeth i ddringwyr

Hefyd, rydym yn ceisio cynllunio ymweliad safle i Forbidden Head gyda’r Parc Cenedlaethol i drafod problemau mynediad sy’n deillio o dyfiant mieri ac eithin ar y pen gorllewinol. Rydym yn gobeithio gallu datrys y broblem er mwyn i’r llwybrau fod ar agor yr haf nesaf.
 


By Mike Raine